Ar ôl tymor cyntaf llwyddiannus yn Uwch-gynghrair y Principality ac ar ôl cael ein coroni’n Bencampwyr Cwpan Cenedlaethol URC, mae RGC yn falch o gadarnhau bod pecyn Clwb Cefnogwyr 1881 ar werth rŵan ar gyfer tymor 2017/18.
Manylion y pecyn:
- Mynediad i’r maes a chlwb cefnogwyr 1881 mewn gemau cartref – y gynghrair a’r cwpan (Ddim yn cynnwys gemau paratoadol cyn dechrau’r tymor, Cymru Dan 20 nac unrhyw gêm arall heblaw am y gynghrair a’r cwpan)
- Mynediad ecsgliwsif i lolfa clwb cefnogwyr 1881 (Ddim yn cynnwys gemau paratoadol cyn dechrau’r tymor, Cymru Dan 20 nac unrhyw gêm arall heblaw am y gynghrair a’r cwpan)
- Gwestai
- Cinio / bwffe
- Rhaglen ar ddiwrnod y gêm
- Ymddangosiadau gan y chwaraewyr
- Mynediad at seddi yn y stadiwm
- Pris yn cynnwys 2 o bobl – deilydd y pecyn a gwestai
- Diod wrth gyrraedd - cwrw, gwin, diod feddal
- Lle i barcio car yn y maes parcio adeg gemau cartref
- Bar – Gostyngiadau ar bris diodydd i aelodau 1881
Pwysig:
- Bydd lolfa clwb cefnogwyr 1881 yn cau 15 munud ar ôl y chwiban olaf.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am becyn Clwb Cefnogwyr 1881, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Sion Jones
Rheolwr Cyffredinol URC – Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru ac RGC
Ffôn: 07876 854961
E-bost: sajones@wru.wales